Menter Canser y Coluddyn (BCI):
Yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion â chanser y
coluddyn. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, canolbwyntiodd y fenter ar
ddatblygu dangosfwrdd data y colon a’r rhefr, gwella
cyfraddau cau ileostomi, gweithredu prawf FIT (prawf imiwnocemegol
ar ysgarthion) ar gyfer cleifion symptomatig a chynnal Adolygiad
gan Gymheiriaid o’r gwasanaethau canser y colon a'r rhefr.
Bydd cam nesaf y fenter yn adeiladu ar hyn i ymgysylltu â
gweithwyr proffesiynol a chleifion, ac olrhain gwelliannau o
ganlyniad i gamau gweithredu adolygiadau gan
gymheiriaid.
Mae’r Rhaglen Llwybr
Lle’r Amheuir Canser yn cefnogi Byrddau Iechyd ac
Ymddiriedolaethau i gydymffurfio â mesur Llywodraeth Cymru ar
gyfer amseroedd aros canser: bod 80% o gleifion i ddechrau eu
triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn
62 ddiwrnod o'r pwynt o
amheuaeth
erbyn 2026. Mae
canserau’r colon a’r rhefr ac oesoffagws-gastrig yn y
don gyntaf o ffocws ar gyfer rhaglenni gwella. Mae wedi cyhoeddi
Llwybrau Delfrydol Cenedlaethol (NOP) ar gyfer 21 o fathau o
ganser, adnoddau data a gwybodaeth, ac mae’n darparu
gwasanaeth rheoli prosiect lleol ar gyfer gwella gwasanaethau ac
arloesi ar hyd y llwybrau hynny.
Mae'r Llwybr Delfrydol
Cenedlaethol ar gyfer Canser Gastroberfeddol Isaf wedi'i ddiwygio i
gynnwys FIT fel prawf gofal sylfaenol a gynhelir cyn atgyfeirio ar
gyfer amheuaeth o ganser y coluddyn symptomatig. Cymeradwywyd hyn
yn ddiweddar gan Fwrdd y Rhwydwaith Canser ym mis Tachwedd 2022, a
byddwn yn gweithio gyda’r grwpiau Gofal Sylfaenol
Cenedlaethol i’w roi ar waith.
Rhaglen dreigl o Adolygiadau
gan Gymheiriaid Clinigol o wasanaethau canser. Adolygwyd
gwasanaethau canser y colon a’r rhefr ddiwethaf yn 2021, a
gwasanaethau canser oesoffagws-gastrig yn 2016.
Rhaglen y Clinig Diagnosis
Cyflym (RDC): yn cydlynu gweithrediad y clinigau newydd hyn i wneud
diagnosis cyflym ar gyfer pobl â symptomau annelwig a allai
fod o ganlyniad i ganser. Mae canserau gastroberfeddol isaf ac
uchaf yn cael diagnosis yn aml drwy'r llwybr hwn.